Newidiadau i gyfraith cwmniau'r DU

Cipolwg ar y newidiadau

Bydd y Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol yn cyflwyno nifer o newidiadau dros y blynyddoedd nesaf. Mae’r dudalen hon yn crynhoi popeth sydd angen i chi ei wybod am y mesurau newydd.   

Gwella ansawdd data ar ein cofrestrau 

O’r 4ydd o Fawrth 2024, mwy o bwerau i Dŷ’r Cwmnïau i wirio gwybodaeth, gwiriadau cryfach ar enwau cwmnïau, rheolau newydd ar gyfer cyfeiriadau swyddfa gofrestredig, a datganiadau pwrpas cyfreithiol newydd.

Newidiadau i’r datganiad cadarnhau

O’r 4ydd o Fawrth 2024, gofynion newydd i ddarparu cyfeiriad e-bost cofrestredig ac i gadarnhau y bydd gweithgareddau’r cwmni yn y dyfodol yn gyfreithlon.   

Newidiadau i ffioedd Tŷ’r Cwmnïau 

O 1 Mai 2024, bydd mwy o ffioedd i ystyried gwariant newydd yn y dyfodol, yn ogystal â sicrhau bod costau’n cael eu hadennill o’r gwariant presennol. 

Gwiriad hunaniaeth

Bydd angen i unrhyw un sy’n sefydlu, rhedeg, yn berchen neu’n rheoli cwmni yn y DU wirio eu hunaniaeth.

Newidiadau i gyfrifon 

Trawsnewid tuag at ffeilio cyfrifon drwy feddalwedd yn unig, a newidiadau i opsiynau ffeilio am gyfrifon cwmnïau bach.

Diogelu eich gwybodaeth

Bydd unigolion yn gallu gwneud cais i atal gwybodaeth bersonol o ddogfennau hanesyddol, a gwneud cais i gael gwybodaeth bersonol wedi’i diogelu o olwg y cyhoedd oherwydd risg o niwed.  

Newidiadau i bartneriaethau cyfyngedig 

Bydd angen i bartneriaethau cyfyngedig ffeilio eu gwybodaeth drwy asiantau awdurdodedig, a bydd angen iddynt ffeilio mwy o wybodaeth gyda Thŷ’r Cwmnïau. 

Gwella tryloywder perchnogaeth cwmni

Gofynion newydd i ddarparu gwybodaeth gyfranddalwyr ychwanegol, a chyfyngiadau ar ddefnyddio cyfarwyddwyr corfforaethol.

Ymchwilio, gorfodaeth a rhannu data 

Pwerau ymchwilio a gorfodaeth fwy effeithiol i Dŷ’r Cwmnïau, a phwerau newydd i rannu data gydag asiantaethau gorfodi’r gyfraith ac adrannau eraill y llywodraeth.