Newidiadau i gyfraith cwmniau'r DU

Y Gofrestr Endidau tramor

Daeth y Gofrestr Endidau Tramor i rym yn y DU ar 1 Awst 2022 trwy’r Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022. Mae’r gofrestr yn rhan allweddol o strategaeth y llywodraeth i daclo troseddau economaidd byd-eang.

Ers 1 Awst 2022, mae’n rhaid i endidau tramor sydd am brynu, gwerthu neu drosglwyddo eiddo neu dir yn y DU gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau a dweud wrthym pwy yw eu perchnogion llesiannol cofrestradwy neu swyddogion rheoli.

Roedd hyn hefyd yn berthnasol yn ôl-weithredol i endidau tramor a brynodd eiddo neu dir ar neu ar ôl: 

  • 1 Ionawr 1999 yng Nghymru a Lloegr
  • 8 Rhagfyr 2014 yn yr Alban

Sefydlwyd y gofrestr i wella tryloywder o ran perchnogaeth a rheolaeth endidau tramor sy’n berchen ar dir y DU. Mae’r wybodaeth hon ar gael yn gyhoeddus ar ein Gwasanaeth dod o hyd i a diweddaru gwybodaeth cwmni. 

Bydd unrhyw un nad yw’n cydymffurfio yn wynebu canlyniadau difrifol, gan gynnwys: 

  • cyfyngiadau ar werthu, prydlesu neu godi taliadau dros eu tir 
  • cosbau ariannol
  • erlyniad

Darganfyddwch fwy am y Gofrestr Endidau Tramor.