Newidiadau i gyfraith cwmniau’r DU
Fe wnaethom gyflwyno’r set gyntaf o newidiadau o dan y Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol ar 4 Mawrth 2024.
Mae’r ddeddf yn rhoi’r pŵer i Dŷ’r Cwmnïau chwarae rhan fwy sylweddol wrth fynd i’r afael â throseddau economaidd a chefnogi twf economaidd. Dros amser, bydd y mesurau yn arwain at dryloywder gwell a gwybodaeth fwy cywir a dibynadwy ar ein cofrestrau.
Mae cyfrifoldebau newydd ar gyfer:
- holl gyfarwyddwyr cwmni newydd a phresennol
- pobl â rheolaeth arwyddocaol dros gwmni (PRhA)
- unrhyw un sy’n ffeilio ar ran cwmni
Darganfyddwch beth sy’n newid i chi a’ch cwmni fel y gallwch weithredu ar yr adeg iawn.
Gwiriad hunaniaeth
Bydd angen i unrhyw un sy’n sefydlu, rhedeg, berchen neu’n rheoli cwmni yn y Deyrnas Unedig wirio pwy ydynt.

Cipolwg ar y newidiadau
Arolwg o’r newidiadau a gyflwynwyd gan y ddeddf.

Gwella ansawdd data ar ein cofrestrau
Dysgwch am bwerau i holi a herio gwybodaeth, amcanion newydd ar gyfer y cofrestrydd, a rheolau newydd ar gyfer cyfeiriadau swyddfa gofrestredig.

Newidiadau i gofrestrau cwmnïau
Ni fydd gofyniad bellach i gwmnïau gadw cofrestrau cyfarwyddwyr, cyfeiriadau preswyl y cyfarwyddwyr, ysgrifenyddion, pobl â rheolaeth arwyddocaol (PRhA).

Newidiadau i gyfrifon
Mae’r ffordd rydych chi’n ffeilio eich cyfrifon blynyddol yn newid, gan gynnwys cyflwyno ffeilio meddalwedd yn unig.

Newidiadau i’r datganiad cadarnhau
Mae’r ffordd rydych chi’n ffeilio eich datganiad cadarnhau yn newid, gan gynnwys cyflwyno cyfeiriad e-bost cofrestredig.

Darparwyr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig
Bydd angen i bob darparwr trydydd parti gofrestru eu busnes fel Darparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig cyn y gallant barhau i gyflwyno gwybodaeth ar ran cleientiaid.

Diogelu eich gwybodaeth
Mae’r Ddeddf yn cyflwyno mesurau i atal cam-drin gwybodaeth bersonol a gedwir ar gofrestr Tŷ’r Cwmnïau.

Newidiadau i ffioedd Ty’r Cwmniau
Cynyddodd ein ffioedd ar 1 Mai 2024.
