Newidiadau i gyfraith cwmniau’r DU

Newidiadau i gyfraith cwmniau'r DU

Fe wnaethom gyflwyno’r set gyntaf o newidiadau o dan y Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol ar 4 Mawrth 2024.

Mae’r ddeddf yn rhoi’r pŵer i Dŷ’r Cwmnïau chwarae rhan fwy sylweddol wrth fynd i’r afael â throseddau economaidd a chefnogi twf economaidd. Dros amser, bydd y mesurau yn arwain at dryloywder gwell a gwybodaeth fwy cywir a dibynadwy ar ein cofrestrau.

Mae cyfrifoldebau newydd ar gyfer:

  • holl gyfarwyddwyr cwmni newydd a phresennol
  • pobl â rheolaeth arwyddocaol dros gwmni (PRhA)
  • unrhyw un sy’n ffeilio ar ran cwmni

Darganfyddwch beth sy’n newid i chi a’ch cwmni fel y gallwch weithredu ar yr adeg iawn.

Pam bod hyn yn bwysig

Bydd y ddeddf yn arwain at well tryloywder a gwybodaeth fwy cywir a dibynadwy ar ein cofrestrau, gan fagu hyder yn economi’r DU.

Cipolwg ar y newidiadau

Arolwg o’r newidiadau a gyflwynwyd gan y ddeddf.

Gwella ansawdd data ar ein cofrestrau

Dysgwch am bwerau i holi a herio gwybodaeth, amcanion newydd ar gyfer y cofrestrydd, a rheolau newydd ar gyfer cyfeiriadau swyddfa gofrestredig.

Gwiriad hunaniaeth

Bydd angen i unrhyw un sy’n sefydlu, rhedeg, berchen neu’n rheoli cwmni yn y Deyrnas Unedig wirio pwy ydynt.

Newidiadau i gyfrifon

Mae’r ffordd rydych chi’n ffeilio eich cyfrifon blynyddol yn newid, gan gynnwys cyflwyno ffeilio meddalwedd yn unig.

Newidiadau i’r datganiad cadarnhau

Mae’r ffordd rydych chi’n ffeilio eich datganiad cadarnhau yn newid, gan gynnwys cyflwyno cyfeiriad e-bost cofrestredig.

Newidiadau i ffioedd Ty’r Cwmniau

Bydd rhai o’n ffioedd yn cynyddu yn 2024.

Diogelu eich gwybodaeth

Mae’r Ddeddf yn cyflwyno mesurau i atal cam-drin gwybodaeth bersonol a gedwir ar gofrestr Tŷ’r Cwmnïau.

Y Gofrestr Endidau Tramor

Darllenwch am Y Gofrestr Endidau Tramor a sut mae’n rhan bwysig o strategaeth y llywodraeth i fynd i’r afael â throseddau economaidd.