Newidiadau i gyfraith cwmniau'r DU

Gwella ansawdd data ar ein cofrestrau

Un o brif amcanion y Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol yw gwella cywirdeb ac ansawdd y data ar ein cofrestrau, trwy helpu i fynd i’r afael â throseddau economaidd a hybu hyder yn economi’r DU. 

Mae’r ddeddf wedi cyflwyno amcanion statudol newydd ar gyfer y Cofrestrydd Cwmnïau y mae’n rhaid iddynt eu hyrwyddo wrth gyflawni eu swyddogaethau. Mae’r ddeddf hefyd yn rhoi cyfres o bwerau newydd ac ehangach i’r cofrestrydd, i’w galluogi i gyflawni eu hamcanion.

  Amcanion y cofrestrydd yw:   

  • sicrhau bod unrhyw un y mae’n ofynnol iddynt gyflwyno dogfen i’r cofrestrydd yn gwneud hynny (a chydymffurfio â’r gofynion ar gyfer cyflwyno priodol)
  • i sicrhau bod gwybodaeth a gynhwysir yn y gofrestr yn gywir a bod y gofrestr yn cynnwys popeth y dylai ei gynnwys
  • sicrhau nad yw cofnodion a gedwir gan y cofrestrydd yn creu argraff ffug neu gamarweiniol i aelodau’r cyhoedd  
  • atal cwmnïau ac eraill rhag cyflawni gweithgareddau anghyfreithlon neu hwyluso gweithgareddau anghyfreithlon gan eraill 

Mae’r amcanion hyn hefyd yn berthnasol i Gofrestrydd Cwmnïau’r Alban a Chofrestrydd Cwmnïau Gogledd Iwerddon.

Beth sy’n newid a beth allai hyn ei olygu i chi 

Cyfeiriadau swyddfa gofrestredig    

Mae rheolau newydd ar gyfer cyfeiriadau swyddfa gofrestredig sy’n golygu bod yn rhaid i gwmnïau, bob amser, gael ‘cyfeiriad priodol’ fel eu swyddfa gofrestredig. 

Cyfeiriad yw ‘cyfeiriad priodol’ os, yn ystod amgylchiadau arferol:     

  • byddai disgwyl i ddogfen a gyfeirir at y cwmni, ac a ddanfonwyd yno â llaw neu drwy’r post, ddod i sylw person    sy’n gweithredu ar ran y cwmni, a
  • byddai’n bosib derbyn cofnod o gyflwyno dogfennau yno trwy gael cydnabyddiaeth o’r danfoniad

Mae’r newidiadau hyn yn golygu na allwch ddefnyddio Blwch Post fel cyfeiriad eich swyddfa gofrestredig.  Byddwn yn cymryd camau gweithredu yn erbyn cwmnïau nad oes ganddynt gyfeiriad swyddfa gofrestredig briodol. 

Datganiad pwrpas cyfreithlon

Mae gofyniad newydd pan fyddwch yn cofrestru neu’n ‘corffori’ cwmni.  Mae angen i’r tanysgrifwyr i’r cwmni gadarnhau eu bod yn ffurfio’r cwmni at bwrpas cyfreithlon. 

Bydd angen i gwmni hefyd gadarnhau bod ei weithgareddau arfaethedig yn y dyfodol yn gyfreithlon, ar eu datganiad cadarnhad blynyddol.  

Pwerau’r cofrestrydd 

Mae gan y cofrestrydd fwy o bwerau i wirio a herio gwybodaeth sy’n ymddangos yn anghywir neu’n anghyson â’r wybodaeth sydd gennym.  Mewn rhai achosion, byddwn hefyd yn gallu dileu gwybodaeth yn gyflymach, os yw’r wybodaeth honno’n anghywir, anghyflawn, ffug neu dwyllodrus.   

Bydd gwiriadau cryfach ar enwau cwmnïau a allai roi argraff ffug neu gamarweiniol i’r cyhoedd. Bydd hyn yn ein helpu i wella cywirdeb ac ansawdd y data sydd gennym ac yn helpu i fynd i’r afael â chamddefnyddio enwau cwmnïau.   

Byddwn yn defnyddio anodiadau ar y gofrestr i roi gwybod i ddefnyddwyr am faterion posibl gyda’r wybodaeth a roddwyd i ni. Byddwn hefyd yn cymryd camau i lanhau’r gofrestr, gan ddefnyddio paru data i nodi a dileu gwybodaeth anghywir. 

Byddwn hefyd yn dechrau cyflwyno proses gwirio hunaniaeth newydd yn hwyrach yn 2024.

Gorfodi a sancsiynau  

Bydd canlyniadau difrifol os na fydd cwmni’n ymateb i gais ffurfiol gan Dŷ’r Cwmnïau am fwy o wybodaeth. Gallai hyn gynnwys:  

  • cosb ariannol 
  • anodiad ar record y cwmni 
  • erlyniad 

Gall hefyd fod canlyniadau difrifol i gwmni os nad yw ei swyddfa gofrestredig yn gyfeiriad priodol.   

Os nad ydym yn fodlon bod swyddfa gofrestredig cwmni yn briodol, byddwn yn ei newid i gyfeiriad diofyn, a ddelir yn Nhŷ’r Cwmnïau. Os caiff swyddfa gofrestredig cwmni ei symud i’r cyfeiriad diofyn, rhaid iddynt ddarparu cyfeiriad priodol gyda thystiolaeth o berchnogaeth berchnogol o fewn 28 diwrnod, neu gallem ddechrau’r broses i ddileu’r cwmni o’r gofrestr.   

Dysgwch fwy am bwerau’r cofrestrydd a sut a phryd y maent yn gweithio.