O dan y Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol, mae cyfrifoldebau newydd ar gyfer:
- holl gyfarwyddwyr cwmni newydd a phresennol
- Pobl â rheolaeth arwyddocaol o gwmni (PRhA)
- unrhyw un sy’n ffeilio ar ran cwmni
Mathau o gwmnïau ac endidau corfforaethol eraill
Yn gyffredinol, mae’r ddeddfwriaeth newydd yn berthnasol i bob endid sydd wedi’i gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau, gan gynnwys:
- Cwmnïau cyfyngedig preifat
- Cwmnïau cyfyngedig cyhoeddus (CCC)
- Partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig (PAC)
- Partneriaethau cyfyngedig (PC)
- Cwmnïau buddiannau cymunedol (CBC)
- Cwmnïau tramor
Mae’r ddeddfwriaeth yn berthnasol i gwmnïau ac endidau eraill sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Asiantau awdurdodedig
Bydd y ddeddfwriaeth hefyd yn berthnasol i unrhyw un sy’n ffeilio ar ran cleientiaid, fel cyfrifwyr ac asiantau ffurfio cwmnïau. Bydd angen i chi gofrestru fel asiant awdurdodedig gyda Thŷ’r Cwmnïau. Gelwir asiantau awdurdodedig hefyd yn Ddarparwyr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (ACSP).
Byddwn yn cyhoeddi mwy o wybodaeth cyn bo hir am sut i gofrestru fel asiant awdurdodedig.
Cwmnïau newydd
Os ydych yn bwriadu dechrau cwmni newydd neu fath endid arall, bydd angen i chi ystyried y newidiadau a’r cyfrifoldebau newydd a gyflwynir gan y ddeddf. Mae’n bwysig deall sut y bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnoch chi.