Newidiadau i gyfraith cwmniau'r DU

Pam bod hyn yn bwysig

Derbyniodd y Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol gydsyniad brenhinol ar 26 Hydref 2023.

Mae’r ddeddf yn cyflwyno’r newidiadau mwyaf i Dŷ’r Cwmnïau ers sefydlu cofrestriadau corfforaethol yn 1844. Bydd gennym y pŵer i chwarae rhan llawer mwy arwyddocaol wrth fynd i’r afael â throseddau economaidd, cefnogi twf economaidd,  a sicrhau bod y DU yn un o’r llefydd gorau yn y byd i ddechrau a thyfu busnes.

Dros amser, bydd y mesurau yn arwain at well tryloywder a gwybodaeth fwy cywir a dibynadwy ar ein cofrestrau. Bydd hyn yn hybu hyder yn economi’r DU, gan gynyddu gwerth y gofrestr ar gyfer busnesau a dinasyddion ledled y DU a thu hwnt.

Mae’r mesurau’n cynnwys:

  • cyflwyno gwirio hunaniaeth ar gyfer holl gyfarwyddwyr cwmni cofrestredig newydd a phresennol, pobl â rheolaeth arwyddocaol (PRhA), a’r rhai sy’n ffeilio ar ran cwmnïau
  • ehangu ein pwerau i ddod yn borthgeidwad mwy gweithredol dros greu cwmnïau a data mwy dibynadwy
  • gwybodaeth ariannol fwy dibynadwy a chywir ar y gofrestr, sy’n adlewyrchu’r datblygiadau diweddaraf mewn technoleg ddigidol ac yn galluogi penderfyniadau busnes gwell
  • rhoi pwerau gorfodi mwy effeithiol i Dŷ’r Cwmnïau, a chynyddu ein gallu i rannu gwybodaeth berthnasol gyda phartneriaid
  • gwella diogelwch gwybodaeth bersonol i ddiogelu unigolion rhag twyll a niwed arall

Mae’r ddeddf hon yn adeiladu ar  Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi), a gyflwynodd y Y Gofrestr Endidau Tramor ym mis Awst 2022. Gyda’i gilydd, mae’r ddwy ddeddf yn gam mawr ymlaen wrth fynd i’r afael â throseddau economaidd a gwella tryloywder corfforaethol.