Newidiadau i gyfraith cwmniau'r DU

Gwiriad hunaniaeth

Mi fydd Tŷ’r Cwmnïau yn cyflwyno proses gwiriad hunaniaeth newydd i helpu i atal y rhai sy’n dymuno defnyddio cwmnïau at ddibenion anghyfreithlon.

Bydd angen i unrhyw un sy’n sefydlu, rhedeg, yn berchen neu’n rheoli cwmni yn y DU wirio eu hunaniaeth i brofi mai nhw yw’r person y maent yn honni ei fod.

Dros y misoedd nesaf, byddwn yn egluro pryd y bydd y newidiadau hyn yn dod i rym a sut y bydd y broses wirio hunaniaeth yn gweithio. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth eto.

Pwy sydd angen gwirio eu hunaniaeth

Ar gyfer cwmnïau newydd, bydd angen i bob cyfarwyddwr a pherson sydd â rheolaeth arwyddocaol (PRhA) gwblhau gwiriad hunaniaeth.

Bydd gwiriad hunaniaeth hefyd yn berthnasol i fathau eraill o gofrestru. Er enghraifft, bydd angen i unrhyw aelodau partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (PAC) wirio eu hunaniaeth hefyd.

Ar gyfer cwmnïau presennol, bydd gan bob cyfarwyddwr (neu gyfwerth) a PRhA gyfnod pontio i wirio eu hunaniaeth gyda Thŷ’r Cwmnïau.

Bydd angen i unrhyw un sy’n gweithredu ar ran cwmni wirio eu hunaniaeth cyn y gallant ffeilio gwybodaeth gyda ni. Gallwch wirio’n uniongyrchol gyda Thŷ’r Cwmnïau, neu drwy asiant awdurdodedig.

Gwirio eich hunaniaeth yn uniongyrchol gyda Thŷ’r Cwmnïau

Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn rhoi gwasanaeth ar waith i wirio eich hunaniaeth gan ddefnyddio dogfennau adnabod, fel pasbort. Bydd amrywiaeth o gymorth a gwasanaethau ar gael i’ch helpu i gwblhau’r broses hon.

Gwirio eich hunaniaeth drwy asiant awdurdodedig

Mae asiantau awdurdodedig, a elwir hefyd yn Ddarparwyr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (ACSPs), yn unigolion neu sefydliadau sy’n ymgymryd â gweithgarwch gwrth-wyngalchu arian (AML), megis:

  • asiantiaid ffurfio Cwmnïau
  • cyfreithwyr
  • cyfrifwyr

Mae gan asiantiaid awdurdodedig eisoes ddyletswydd i gynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy ar eu holl gleientiaid. Bydd proses gwirio hunaniaeth Tŷ’r Cwmnïau yn adeiladu ar y gwiriadau presennol hyn.

Rhaid i wiriad hunaniaeth gan asiantiaid awdurdodedig fodloni’r un lefel o sicrwydd â’r rhai sy’n gwirio’n uniongyrchol gyda Thŷ’r Cwmnïau.

Byddwn yn cyhoeddi canllawiau manwl ar gyfer asiantiaid awdurdodedig ar y gofynion gwirio hunaniaeth hyn.