Mae Darparwyr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (ACSP) yn unigolion neu sefydliadau sy’n ymgymryd â gweithgarwch atal gwyngalchu arian (AML), fel:
- asiantau ffurfio cwmnïau
- cyfreithwyr
- cyfrifwyr
Bydd angen i bob darparwr trydydd parti gofrestru eu busnes fel Darparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig cyn y gallant barhau i gyflwyno gwybodaeth ar ran cleientiaid.
Dod yn Ddarparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig
I ddod yn Ddarparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig rhaid i asiantau gael eu goruchwylio yn y DU gan un o’r Cyrff atal gwyngalchu arian (AML) perthnasol, fel:
- CThEF
- Awdurdod Ymddygiad Ariannol
- Cymdeithas Ymarferwyr Ansolfedd
Mae cyfanswm o 25 o gyrff goruchwylio yn y Deyrnas Unedig. Gallwch ddod o hyd i restr lawn o gyrff goruchwylio ar GOV.UK.
Cofrestru fel Darparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig gyda Thŷ’r Cwmnïau
Os oes gennych rôl uwch o fewn y busnes, fel cyfarwyddwr neu unig fasnachwr, bydd angen i chi gwblhau proses gofrestru i gofrestru eich busnes fel Darparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig gyda Thŷ’r Cwmnïau Byddwch yn cael gwiriad hunaniaeth fel rhan o’r cais ac yn darparu gwybodaeth am y busnes.
Ar ôl cofrestru, byddwch yn derbyn cyfrif digidol newydd a rhif adnabod unigryw. Bydd hyn yn eich galluogi i ffeilio gwybodaeth a chwblhau’r gwiriad hunaniaeth ar gyfer eich cleientiaid.
Gall y person sy’n cofrestru’r busnes fel Darparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig ychwanegu pobl eraill sy’n gweithio i’r busnes at gyfrif Darparwyr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig unwaith y bydd wedi’i gofrestru a’i gymeradwyo.
Os ydych chi’n asiant, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth eto. Byddwn yn cyhoeddi pryd y bydd y gwasanaeth cofrestru yn cael ei lansio ymlaen llaw i roi digon o amser i chi baratoi. Byddwn hefyd yn cyhoeddi cyfarwyddyd ar GOV.UK i’ch helpu gyda’ch cyfrifoldebau.
Darllenwch ein blog i ddarganfod mwy am Ddarparwyr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig.