Mae’r Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol wedi cyflwyno newidiadau pwysig i’r datganiad cadarnhau.
Rhaid i bob cwmni, gan gynnwys cwmnïau segur a chwmnïau nad ydynt yn masnachu, ffeilio datganiad cadarnhau o leiaf unwaith y flwyddyn. Mae’n cadarnhau bod y wybodaeth sydd gennym am y cwmni yn gyfredol.
Rhaid i gwmnïau ffeilio datganiad cadarnhau hyd yn oed os na fu unrhyw newidiadau yn ystod y cyfnod adolygu.
Cyfeiriad e-bost cofrestredig
O dan y Ddeddf, mae angen i bob cwmni ddarparu cyfeiriad e-bost cofrestredig. Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn defnyddio’r cyfeiriad e-bost hwn i gyfathrebu â’r cwmni – ni fydd ar gael i’r cyhoedd.
Bydd angen i gwmnïau newydd roi cyfeiriad e-bost cofrestredig pan fyddant yn ymgorffori, o’r 4ydd o Fawrth 2024.
Bydd angen i gwmnïau presennol roi cyfeiriad e-bost cofrestredig pan fyddant yn ffeilio eu datganiad cadarnhad nesaf, gyda datganiad yn dyddio o’r 5ydd o Fawrth 2024 ymlaen.
Datganiad i gadarnhau bod y cwmni yn gyfreithlon
Mae angen i bob cwmni gadarnhau fod y gweithgareddau a fwriedir gan y cwmni yn y dyfodol yn gyfreithlon.
Bydd angen i chi gadarnhau hyn bob blwyddyn ar y datganiad cadarnhau. Ni fyddwch yn gallu cyflwyno datganiad cadarnhau heb y datganiad hwn.
Bydd hyn yn berthnasol i bob datganiad cadarnhau gyda dyddiad datganiad o’r 5ydd o Fawrth 2024 ymlaen.