Newidiadau i gyfraith cwmniau'r DU

Newidiadau i gyfrifon 

Bydd y mesurau a nodir yn y Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol yn gwella tryloywder trwy sicrhau bod mwy o wybodaeth ariannol ar gael i’r cyhoedd.   

Ffeilio cyfrifon trwy feddalwedd yn unig  

Fel rhan o’n taith i foderneiddio a digideiddio ein llwybrau ffeilio, mae’r ffordd rydych chi’n ffeilio eich cyfrifon blynyddol gyda Thŷ’r Cwmnïau yn newid. 

Cyn bo hir byddwn yn trosglwyddo tuag at ffeilio cyfrifon trwy feddalwedd yn unig. Bydd hyn yn caniatáu ffeilio mwy effeithlon a diogel i gwmnïau, a bydd yn gwella ansawdd y data ar y gofrestr. Bydd ffeilio cyfrifon trwy feddalwedd yn unig yn creu ffordd sengl, gost-effeithiol, gynaliadwy ac olrhain i ffeilio.

Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn gosod y sylfaen i Dŷ’r Cwmnïau ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau ffeilio cyfrifon mewn fformat digidol. Er mwyn cydymffurfio â’r newidiadau hyn, bydd angen i bob cwmni ddod o hyd i feddalwedd addas cyn nad oes opsiynau ar y we neu ffeilio papur ar gael mwyach.

Mae hyn yn berthnasol i gyfarwyddwyr sy’n ffeilio cyfrifon eu hunain, a chwmnïau sy’n defnyddio asiantiaid trydydd parti neu gyfrifwyr i ffeilio eu cyfrifon blynyddol. 

Bydd symud i ffeilio cyfrifon trwy feddalwedd yn unig yn cael ei gyflwyno’n raddol dros y 2 neu 3 flynedd nesaf.

Byddwn yn rhannu’r amserlen ar gyfer cyflwyno ffeilio meddalwedd yn unig yn raddol yn fuan. Gall y rhan fwyaf o gwmnïau wneud y newid nawr gan fod meddalwedd eisoes ar gael.  Mae yna lawer o ddarparwyr meddalwedd sy’n cynnig amrywiaeth o becynnau cyfrifyddu i baratoi a ffeilio cyfrifon.

Gellir ffeilio’r rhan fwyaf o fathau o gyfrifon gan ddefnyddio meddalwedd, yn dibynnu ar ymarferoldeb y pecyn meddalwedd rydych chi’n ei ddefnyddio. Rydym yn gweithio gyda chwmnïau meddalwedd i ddatblygu datrysiad ar gyfer cyfrifon pecyn cymhleth, sydd ar hyn o bryd yn cael eu ffeilio ar bapur. 

Mae ffeilio trwy feddalwedd yn unig yn cefnogi’r nod o wasanaeth ffeilio cwbl ddigidol ac yn helpu i gyflawni ein blaenoriaeth sefydliadol i atal troseddau economaidd a dod â’r DU yn unol ag arfer gorau rhyngwladol.  

Darllenwch fwy am ffeilio trwy feddalwedd yn unig.

Newidiadau i opsiynau ffeilio cwmni bach

Rydym yn symleiddio’r opsiynau ffeilio cyfrifon ar gyfer cwmnïau bach a micro-endid.

Bydd angen i gwmnïau bach a micro-endid ffeilio eu cyfrifon elw a cholled. Bydd manylion yr hyn y bydd angen iddynt ei gynnwys yn cael ei nodi mewn is-ddeddfwriaeth. Bydd angen i gwmnïau bach nad ydynt yn gymwys fel endidau micro ffeilio adroddiad cyfarwyddwyr hefyd. 

Rydym hefyd yn dileu’r opsiwn i ffeilio cyfrifon talfyredig ‘abridged’.  

Hawlio eithriad archwilio

Bydd angen i unrhyw gwmni sy’n hawlio eithriad archwilio roi datganiad ychwanegol gan eu cyfarwyddwyr ar y fantolen.

Bydd angen i gyfarwyddwyr nodi pa eithriad sy’n cael ei hawlio, a chadarnhau bod y cwmni’n gymwys am yr eithriad.  

Darllenwch am newidiadau i ddewisiadau ffeilio cyfrifon cwmnïau bach a darganfod mwy am y mesurau yn y daflen ffeithiau Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol

Ffeilio eich cyfrifon gyda Thŷ’r Cwmnïau.