Newidiadau i gyfraith cwmniau'r DU

Partneriaethau cyfyngedig

O dan fesurau a gyflwynwyd gan y Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol, bydd gwybodaeth am bartneriaeth gyfyngedig (PC) yn fwy hygyrch a thryloyw.

Pan ddaw’r mesurau hyn i rym, mae’n rhaid i PC:

  • darparu enwau, dyddiad geni a chyfeiriad preswyl arferol partneriaid 
  • gwirio hunaniaeth partneriaid cyffredinol 
  • darparu swyddfa gofrestredig yn y Deyrnas Unedig
  • darparu cod dosbarthiad diwydiannol safonol (SIC)
  • Ffeilio datganiad cadarnhau blynyddol

Bydd angen i PC ffeilio eu gwybodaeth drwy asiant awdurdodedig (a elwir hefyd yn Ddarparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig) sydd wedi’i gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y data’n ddibynadwy ac yn addas i’r diben.  

Bydd pwerau newydd i: 

  • Cau ac adfer partneriaethau cyfyngedig 
  • gweithredu sancsiynau
  • diogelu gwybodaeth partneriaid
  • gweithredu proses gydymffurfio statudol  

Bydd angen is-ddeddfwriaeth ar y mesurau hyn cyn iddynt gael eu gweithredu.