Newidiadau i gyfraith cwmniau'r DU

Gwella tryloywder perchnogaeth cwmni

O dan fesurau a gyflwynwyd gan y Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol, bydd perchnogaeth cwmnïau yn fwy tryloyw.

Pan ddaw’r mesurau i rym, rhaid i gwmnïau:

  • cofnodi enwau llawn cyfranddalwyr sy’n unigolion – neu enwau llawn aelodau corfforaethol a chwmnïau – yn eu cofrestrau
  • darparu rhestr o gyfranddalwyr llawn untro fel y gall Tŷ’r Cwmnïau arddangos gwybodaeth am gyfranddalwyr mewn ffordd sy’n fwy hwylus i’w defnyddio

Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn:

  • casglu ac arddangos mwy o wybodaeth gan gwmnïau sy’n hawlio eithriad rhag rhoi manylion o reolaeth arwyddocaol (PRhA) i berson, gan gynnwys y rheswm dros yr eithriad
  • casglu ac arddangos yr amodau sy’n caniatáu i endid cyfreithiol perthnasol (RLE) gael ei gofnodi fel PRhA

Bydd cyfyngiadau hefyd ar ddefnyddio cyfarwyddwyr corfforaethol. Dim ond endidau corfforaethol yn y DU sydd â ‘phersonoliaeth gyfreithiol’ y gellir eu penodi fel cyfarwyddwyr corfforaethol. Rhaid i gyfarwyddwyr y cyfarwyddwyr corfforaethol hyn fod yn bersonau naturiol a rhaid iddynt wirio eu hunaniaeth. Darganfyddwch fwy am y cyfyngiadau ar gyfarwyddwyr corfforaethol