Bydd y Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol yn cyflwyno nifer o newidiadau dros y blynyddoedd nesaf. Mae’r dudalen hon yn crynhoi popeth sydd angen i chi ei wybod am y mesurau newydd.
Gwella ansawdd data ar ein cofrestrau
O’r 4ydd o Fawrth 2024, mwy o bwerau i Dŷ’r Cwmnïau i wirio gwybodaeth, gwiriadau cryfach ar enwau cwmnïau, rheolau newydd ar gyfer cyfeiriadau swyddfa gofrestredig, a datganiadau pwrpas cyfreithiol newydd.
Newidiadau i’r datganiad cadarnhau
O’r 4ydd o Fawrth 2024, gofynion newydd i ddarparu cyfeiriad e-bost cofrestredig ac i gadarnhau y bydd gweithgareddau’r cwmni yn y dyfodol yn gyfreithlon.
Newidiadau i ffioedd Tŷ’r Cwmnïau
O 1 Mai 2024, bydd mwy o ffioedd i ystyried gwariant newydd yn y dyfodol, yn ogystal â sicrhau bod costau’n cael eu hadennill o’r gwariant presennol.
Gwiriad hunaniaeth
O’r gwanwyn 2025, cyflwynir gwiriad hunaniaeth mewn dull graddol – bydd angen i unrhyw un sy’n sefydlu, rhedeg, yn berchen neu’n rheoli cwmni yn y DU wirio eu hunaniaeth.
Diogelu eich gwybodaeth
O’r gwanwyn/haf 2025, bydd unigolion yn gallu gwneud cais i atal gwybodaeth bersonol o ddogfennau hanesyddol.
Newidiadau i bartneriaethau cyfyngedig
O’r gwanwyn 2026, bydd angen i bartneriaethau cyfyngedig ffeilio eu gwybodaeth drwy Ddarparwyr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig, a bydd angen iddynt ffeilio mwy o wybodaeth gyda Thŷ’r Cwmnïau.
Gwella tryloywder perchnogaeth cwmni
Gofynion newydd i ddarparu gwybodaeth gyfranddalwyr ychwanegol, a chyfyngiadau ar ddefnyddio cyfarwyddwyr corfforaethol.
Newidiadau i gyfrifon
Trawsnewid tuag at ffeilio cyfrifon drwy feddalwedd yn unig, a newidiadau i opsiynau ffeilio am gyfrifon cwmnïau bach.
Ymchwilio, gorfodaeth a rhannu data
O’r 4ydd o Fawrth 2024, bydd pwerau ymchwilio a gorfodaeth fwy effeithiol i Dŷ’r Cwmnïau, a phwerau newydd i rannu data gydag asiantaethau gorfodi’r gyfraith ac adrannau eraill y llywodraeth.