Mi fydd Tŷ’r Cwmnïau yn cyflwyno proses gwiriad hunaniaeth newydd i helpu i atal y rhai sy’n dymuno defnyddio cwmnïau at ddibenion anghyfreithlon.
Bydd angen i unrhyw un sy’n sefydlu, rhedeg, yn berchen neu’n rheoli cwmni yn y DU wirio eu hunaniaeth i brofi mai nhw yw’r person y maent yn honni ei fod. Darllenwch y canllawiau ar wirio eich hunaniaeth ar gyfer Ty’r Cwmnïau.
Pwy sydd angen gwirio eu hunaniaeth
O’r 8 Ebrill 2025, gall unigolion wirio eu hunaniaeth yn wirfoddol. Gallwch wirio’n uniongyrchol gyda Thŷ’r Cwmnïau trwy GOV.UK One Login, neu drwy Ddarparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (DGCA).
O’r 18 Tachwedd 2025, bydd gwiriad hunaniaeth yn dod yn orfodol ar gyfer:
- cyfarwyddwyr newydd a phobl â rheolaeth arwyddocaol (PRhA)
- cyfarwyddwyr presennol a PRhA
- aelodau o bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig
Byddwn yn cyflwyno gwiriad hunaniaeth yn ddiweddarach ar gyfer:
- pobl sy’n ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau
- partneriaethau cyfyngedig
- cyfarwyddwyr corfforaethol o gwmnïau
- aelodau corfforaethol partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig (PAC)
- swyddogion PRhA corfforaethol
Gwirio eich hunaniaeth yn uniongyrchol gyda Thŷ’r Cwmnïau gan ddefnyddio GOV.UK One Login
Gallwch ddefnyddio GOV.UK One Login i wirio eich hunaniaeth gan ddefnyddio dogfennau adnabod, fel pasbort.
Gwirio eich hunaniaeth drwy Darparwyr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig
Mae Darparwyr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (DGCA) yn unigolion neu sefydliadau sy’n ymgymryd â gweithgarwch atal gwyngalchu arian (AML), fel:
- asiantau ffurfio cwmnïau
- cyfreithwyr
- cyfrifwyr
- ysgrifenyddion siartredig a gweithwyr llywodraethu proffesiynol
O’r 18 Mawrth 2025, gall cwmnïau dan oruchwyliaeth atal gwyngalchu arian ac unig fasnachwyr wneud cais i ddod yn DGCA. Bydd DGCA hefyd yn cael eu galw’n asiantau awdurdodedig.
Rhaid i wiriadau gwiriad hunaniaeth a gynhelir gan DGCA fodloni’r un lefel o sicrwydd â’r rhai sy’n gwirio’n uniongyrchol gyda Thŷ’r Cwmnïau.
Darllenwch fwy am Ddarparwyr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig.
Os nad ydych yn cydymffurfio â gofynion gwiriad hunaniaeth ar amser, byddwch yn cyflawni trosedd. Bydd amrywiaeth o ganlyniadau, gan gynnwys cosb ariannol. Ni fyddwch yn gallu gwneud unrhyw ffeilio ar gyfer eich cwmni neu ddechrau cwmni newydd.