Mae rhai cwsmeriaid yn cysylltu â ni i gael help gyda chwblhau gwiriad hunaniaeth a ffeilio eu datganiad cadarnhau.
I gael mwy o wybodaeth am sut a phryd i gwblhau gwiriad hunaniaeth, ewch i’n casgliad canllawiau gwiriad hunaniaeth ar GOV.UK.
Gall ein canllaw gwiriad hunaniaeth ryngweithiol eich helpu i ddeall eich opsiynau gwiriad hunaniaeth, sut i ddod o hyd i’ch cod personol a’i ddefnyddio, a pha gymorth sydd ar gael.
Os oes angen help arnoch o hyd, dyma rai ambell air o gyngor i’ch helpu cyn cysylltu â ni.
Gwiriwch pryd mae angen i chi ffeilio datganiad cadarnhau eich cwmni
Cyn i chi ffeilio’ch datganiad cadarnhau nesaf, rhaid i chi wneud y canlynol:
- gwirio bod y manylion sydd gennym amdanat ti a’ch cwmni yn gywir
- diweddaru eich cofnodion os yw unrhyw wybodaeth yn anghywir neu wedi dyddio
- sicrhau bod pob cyfarwyddwr cwmni wedi cwblhau gwiriad hunaniaeth a chael eu cod personol ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau
- cynnwys y cod personol ar gyfer pob cyfarwyddwr yn ddatganiad cadarnhau eich cwmni
Bydd eich datganiad cadarnhau yn cael ei wrthod os nad ydych wedi cwblhau’r camau hyn.
Ni fyddwch yn gallu ffeilio eich datganiad cadarnhau os yw dyddiadau geni unrhyw un o’ch cyfarwyddwyr yn anghywir neu os nad ydynt yn cyd-fynd â’r manylion sydd wedi’u cofnodi yn gofrestr Tŷ’r Cwmnïau
Os bydd rhywun arall yn ffeilio’ch datganiad cadarnhau, rhaid i bob cyfarwyddwr rannu eu codau personol gyda nhw fel y gallant gynnwys y manylion yn ffeilio eich cwmni.
Os ydych eisoes wedi cwblhau gwiriad hunaniaeth, nid oes angen i chi ei wneud eto – ond rhaid i chi ddarparu eich cod personol ar gyfer pob rôl rydych yn ei dal.
Nid oes angen i ysgrifenyddion cwmni cwblhau gwiriad hunaniaeth.
Pobl â rheolaeth arwyddocaol (PRhA)
Bydd angen i bobl sydd â rheolaeth arwyddocaol (PRhA) hefyd ddarparu eu cod personol erbyn eu dyddiad dyledus gan ddefnyddio gwasanaeth ar wahân – Darparu manylion gwiriad hunaniaeth ar gyfer person â rheolaeth arwyddocaol. Gwiriwch gofrestr Tŷ’r Cwmnïau i weld y dyddiadau dyledus ar gyfer pob rôl sydd gennych.
Os yw cyfarwyddwyr eich cwmni hefyd yn PRhA o’r cwmni, dim ond unwaith y mae angen iddynt gwblhau gwiriad hunaniaeth – ond rhaid i chi ddarparu eu cod personol ddwywaith, unwaith fel cyfarwyddwr ar y datganiad cadarnhau, ac unwaith fel PRhA gan ddefnyddio’r gwasanaeth Darparu manylion gwiriad hunaniaeth ar gyfer PRhA.
Nid oes angen i chi ddarparu eich cod personol am unrhyw ffeilio arall ar hyn o bryd, gan gynnwys cyfrifon blynyddol.
Gweler ein canllawiau fideo ar gyfer darparu eich cod personol:
Darllenwch ein canllawiau ar GOV.UK i gael mwy o wybodaeth am bryd y bydd angen i chi gwblhau gwiriad a darparu eich cod personol.
Sut i ddod o hyd i’ch cod personol Tŷ’r Cwmnïau
Rydym wedi cyhoeddi canllawiau manwl ar GOV.UK ynglŷn â ble i ddod o hyd i’ch codau personol ar gyfer cwblhau gwiriad hunaniaeth.
Gwnewch yn siŵr bod eich manylion personol sydd gan Dŷ’r Cwmnïau yn cyfateb i’ch dogfennau adnabod
Cyn darparu eich cod personol, gwnewch yn siŵr bod y manylion personol sydd gan Dŷ’r Cwmnïau (fel eich dyddiad geni) yn cyfateb i’r manylion ar y dogfennau adnabod a ddefnyddiwyd gennych i gwblhau eich gwiriad hunaniaeth.
Os cyflwynir dyddiad geni anghywir i Dŷ’r Cwmnïau, ni fydd cyfarwyddwr neu PRhA yn gallu cwblhau gwiriad hunaniaeth nes i hyn gael ei gywiro. Gall cywiriadau gymryd hyd at 20 diwrnod gwaith i’w prosesu, felly mae’n bwysig gwirio hyn yn gynnar.
Darganfyddwch sut i gywiro dyddiad geni, neu roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau eraill.
Bydd angen i chi aros nes bydd y gofrestr yn dangos y diweddariad cyn darparu’ch cod personol.
Mynediad i’ch cyfrif WebFiling neu Dŷ’r Cwmnïau
Os oes gennych WebFiling a chyfrif Tŷ’r Cwmnïau ar gyfer y gwasanaeth ‘Dod o hyd i a diweddaru gwybodaeth cwmni’, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r un cyfeiriad e-bost ar gyfer y ddau gyfrif. Os nad yw’r ddau gyfeiriad e-bost yr un peth, bydd angen i chi newid un ohonynt fel eu bod yn cyfateb.
Pan fyddwch yn mewngofnodi i’ch cyfrif WebFiling, byddwch yn cael eich ailgyfeirio i gysylltu’ch cyfrif â GOV.UK One Login.
Os:
- oes gennych gyfrif GOV.UK One Login, byddwch yn gallu mewngofnodi a chysylltu’ch cyfrif
- nad oes gennych gyfrif GOV.UK One Login, gofynnir i chi greu un
- oes gennych gyfrif Tŷ’r Cwmnïau ar gyfer y gwasanaeth ‘Dod o hyd i a diweddaru gwybodaeth cwmnïau’ nad ydych wedi cysylltu â GOV.UK One Login, byddwch yn gallu cysylltu’r ddau gyfrif ar yr un pryd
Os ydych yn rhannu cyfrif WebFiling gydag eraill, dim ond un person all gysylltu pob cyfrif WebFiling â’u GOV.UK One Login. Bydd angen i unrhyw un sy’n rhannu mynediad i’r cyfrifon hyn greu eu GOV.UK One Login eu hunain, gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost gwahanol. Ni fyddant bellach yn gallu cael mynediad at wybodaeth am y cwmni yn y cyfrifon a rennir yn flaenorol.
Gofynnwch am gymorth os oes ei angen
Os nad ydych yn hyderus yn defnyddio GOV.UK One Login neu os nad oes gennych fynediad i ddyfais addas, gallwch ofyn i rywun eich helpu drwy:
- ganiatáu i chi ddefnyddio eu ffôn neu gyfrifiadur
- eich helpu i lawrlwytho a defnyddio’r ap
- cynorthwyo gyda sganio eich ID a chymryd lluniau
Gallwch ddarganfod mwy am Helpu rhywun i ddefnyddio GOV.UK One Login.
Gallwch hefyd ddarllen cyngor gan AbilityNet ar sut i wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio. Er enghraifft, dysgu sut i newid lliw’r cefndir neu faint y testun.
I gael mwy o wybodaeth a chanllawiau manwl ar gwblhau gwiriad hunaniaeth, ewch i Gwirio eich hunaniaeth ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau.