Skip to main content

Y Gofrestr Endidau tramor

Daeth y Gofrestr Endidau Tramor i rym yn y DU ar 1 Awst 2022 trwy’r Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022. Mae’r gofrestr yn rhan allweddol o strategaeth y llywodraeth i daclo troseddau economaidd byd-eang.

Ers 1 Awst 2022, mae’n rhaid i endidau tramor sydd am brynu, gwerthu neu drosglwyddo eiddo neu dir yn y DU gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau a dweud wrthym pwy yw eu perchnogion llesiannol cofrestradwy neu swyddogion rheoli.

Roedd hyn hefyd yn berthnasol yn ôl-weithredol i endidau tramor a brynodd eiddo neu dir ar neu ar ôl: 

  • 1 Ionawr 1999 yng Nghymru a Lloegr
  • 8 Rhagfyr 2014 yn yr Alban

Sefydlwyd y gofrestr i wella tryloywder o ran perchnogaeth a rheolaeth endidau tramor sy’n berchen ar dir y DU. Mae’r wybodaeth hon ar gael yn gyhoeddus ar ein Gwasanaeth dod o hyd i a diweddaru gwybodaeth cwmni. 

Bydd unrhyw un nad yw’n cydymffurfio yn wynebu canlyniadau difrifol, gan gynnwys: 

  • cyfyngiadau ar werthu, prydlesu neu godi taliadau dros eu tir 
  • cosbau ariannol
  • erlyniad

Newidiadau i fynediad a diogelu data ymddiriedolaeth

Bydd newidiadau i fynediad a diogelu data ymddiriedolaeth a gedwir ar y Gofrestr Endidau Tramor trwy gydol 2025. 

  • O 28 Chwefror 2025, gall endidau wneud cais i ddiogelu manylion eu haelodau’r ymddiriedolaeth os ydynt yn cwrdd â’r meini prawf angenrheidiol.  
  • O 31 Awst 2025, bydd gwybodaeth sy’n ymwneud ag ymddiriedolaethau ar y Gofrestr Endidau Tramor ar gael ar gais.

Darparu gwybodaeth am y cyfnod cyn-gofrestru

Yn ddiweddarach, bydd angen i endidau tramor sy’n ffeilio datganiad diweddaru ddweud wrthym am newidiadau perchnogaeth lesiannol yn ystod y cyfnod cyn-gofrestru.

Os oedd endid tramor yn berchennog cofrestredig tir yn y DU rhwng 28 Chwefror 2022 a 31 Ionawr 2023, bydd angen iddynt ddweud wrthym a oedd unrhyw newidiadau i’w perchnogion llesiannol, gan gynnwys gwybodaeth ymddiriedolaeth, yn ystod y cyfnod cyn-gofrestru. Mae’r cyfnod cyn-gofrestru rhwng 28 Chwefror 2022 a naill ai 31 Ionawr 2023, neu’r dyddiad y cofrestrodd yr endid tramor, pa bynnag un sy’n dod gyntaf.

Unwaith yn unig y bydd angen i endidau ddarparu’r wybodaeth hon. Darllenwch fwy am y cyfnod cyn-gofrestru.