Newidiadau i’r datganiad cadarnhau

Mae’r Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol wedi cyflwyno newidiadau pwysig i’r datganiad cadarnhau. Os nad ydych yn cyflwyno’ch datganiad cadarnhau ar amser, efallai y byddwch yn derbyn cosb ariannol.

Rhaid i bob cwmni, gan gynnwys cwmnïau segur a chwmnïau nad ydynt yn masnachu, ffeilio datganiad cadarnhau o leiaf unwaith y flwyddyn. Mae’n cadarnhau bod y wybodaeth sydd gennym am y cwmni yn gyfredol.

Rhaid i gwmnïau ffeilio datganiad cadarnhau hyd yn oed os na fu unrhyw newidiadau yn ystod y cyfnod adolygu.

Cyfeiriad e-bost cofrestredig

O dan y Ddeddf, mae angen i bob cwmni ddarparu cyfeiriad e-bost cofrestredig. Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn  defnyddio’r cyfeiriad e-bost hwn i gyfathrebu â’r cwmni – ni fydd ar gael i’r cyhoedd.

Bydd angen i gwmnïau newydd roi cyfeiriad e-bost cofrestredig pan fyddant yn ymgorffori, o’r 4ydd o Fawrth 2024.

Bydd angen i gwmnïau presennol roi cyfeiriad e-bost cofrestredig pan fyddant yn ffeilio eu datganiad cadarnhad nesaf, gyda datganiad yn dyddio o’r 5ydd o Fawrth 2024 ymlaen.

Datganiad i gadarnhau bod y cwmni yn gyfreithlon

Mae angen i bob cwmni gadarnhau fod y gweithgareddau a fwriedir gan y cwmni yn y dyfodol yn gyfreithlon.

Bydd angen i chi gadarnhau hyn bob blwyddyn ar y datganiad cadarnhau. Ni fyddwch yn gallu cyflwyno datganiad cadarnhau heb y datganiad hwn.

Bydd hyn yn berthnasol i bob datganiad cadarnhau gyda dyddiad datganiad o’r 5ydd o Fawrth 2024 ymlaen.

Adrodd gwybodaeth cyfranddaliwr

Yn y dyfodol, mae’n rhaid i chi ddweud wrth Dŷ’r Cwmnïau enwau llawn yr holl gyfranddalwyr – a darparu rhestr lawn newydd o gyfranddalwyr – pan fyddwch chi’n ffeilio’ch datganiad cadarnhau. Dim ond unwaith y bydd angen i chi ddarparu rhestr lawn o gyfranddalwyr.

Ni fydd hyn yn berthnasol i chi os yw’ch cwmni yn ddarostyngedig i DTR5. Mae angen i gwmnïau masnachedig ddweud wrthym am gyfranddalwyr sy’n berchen ar 5% neu fwy o gyfrannau.

Bydd angen i gwmnïau sydd wedi’u heithrio rhag darparu gwybodaeth pobl â rheolaeth arwyddocaol (PRhA) hefyd roi manylion am yr eithriad, gan gynnwys ble mae eu cyfrannau yn masnachedig ac ar ba farchnad reoledig.

Byddwn yn dweud wrthych pryd y bydd y mesurau newydd hyn yn dod i rym. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth eto.

Darllenwch fwy am newidiadau i’r ffordd rydych chi’n adrodd a chofnodi gwybodaeth am gyfranddaliwr.

Gorfodi a sancsiynau

Os nad ydych yn cyflwyno’ch datganiad cadarnhau ar amser, efallai y byddwch yn derbyn cosb ariannol. Darllenwch ein canllawiau gorfodi am fwy o wybodaeth.

Ffeilio eich datganiad cadarnhau gyda Thŷ’r Cwmnïau.