Skip to main content

Cyfyngiadau newydd ar bwy all ffeilio gwybodaeth gyda Thŷ’r Cwmnïau

Mae cyfyngiadau newydd ar bwy all ffeilio gwybodaeth gyda Thŷ’r Cwmnïau yn cael eu cyflwyno o dan Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol.

Rydym yn gweithio i weithredu’r newidiadau hyn a byddwn yn rhoi o leiaf 6 mis o rybudd cyn iddynt ddod i rym. Ni fydd y cyfyngiadau’n cael eu cyflwyno cyn mis Tachwedd 2027.

Pan fydd y cyfyngiadau ffeilio yn cael eu cyflwyno, byddwch chi ond yn gallu ffeilio gyda Thŷ’r Cwmnïau os ydych chi’n:

  • swyddog neu gyflogai cwmni sydd wedi cwblhau gwiriad hunaniaeth – mae hyn yn cynnwys cyfarwyddwyr cwmnïau a phobl â rheolaeth arwyddocaol (PRhA)
  • Darparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (ACSP) sydd wedi’i gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau
  • gweithiwr ACSP

Bydd y cyfyngiadau yn berthnasol i bob ffeilio, gan gynnwys:

  • ymgorffori cwmni
  • ffeilio datganiad cadarnhau
  • ffeilio cyfrifon
  • diweddaru gwybodaeth cwmni

Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddeall sut mae gwahanol sefydliadau’n rheoli eu ffeiliau ac i brofi cynigion ar gyfer y cyfyngiadau. Mae hyn yn cynnwys ystyried a ddylid defnyddio rheoliadau i ganiatáu i ystod ehangach o bobl ffeilio ar ran ACSP neu o fewn strwythur grŵp.

Darparwyr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (ACSPs)

Mae Darparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (ACSP) yn unigolyn neu’n sefydliad sy’n ymgymryd â gweithgaredd gwrth-wyngalchu arian (AML) dan oruchwyliaeth, fel:

  • asiantau ffurfio cwmnïau  
  • cyfreithwyr  
  • cyfrifwyr 
  • ysgrifenyddion siartredig a gweithwyr proffesiynol llywodraethu

Ar hyn o bryd, mae angen i asiantau trydydd parti gofrestru fel ACSP os ydynt am roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau eu bod wedi cwblhau gwiriad hunaniaeth. Pan fydd y gofynion ffeilio newydd yn dod i rym, bydd hefyd angen iddynt fod wedi’u cofrestru fel ACSP, neu fod yn weithiwr i ACSP, i ffeilio gwybodaeth gyda Thŷ’r Cwmnïau ar ran eu cleientiaid.

Gallwch ddod o hyd i restr o ACSPs cofrestredig ar GOV.UK.

Pam rydyn ni’n gwneud y newid hwn

Mae twyll a throseddau economaidd yn costio biliynau o bunnoedd i’r DU bob blwyddyn. Weithiau mae troseddwyr wedi cofrestru cwmnïau i guddio eu hunaniaeth neu i guddio gweithgarwch anghyfreithlon. Mae’r rheolau ffeilio newydd hyn wedi’u cynllunio i gau’r bwlch hwnnw.

Bydd cyfyngu ar pwy all ffeilio gwybodaeth gyda Thŷ’r Cwmnïau yn ein helpu i sicrhau bod mwy o atebolrwydd ar y wybodaeth ar y gofrestr. Bydd yn ein helpu i nodi pwy sy’n gyfrifol am ffeilio gwybodaeth ac yn cryfhau ein gallu i ganfod gweithgarwch amheus a mynd i’r afael â thwyll.

Bydd y cyfyngiadau hefyd yn ein helpu i nodi patrymau risg a chanolbwyntio ein hymdrechion lle mae eu hangen fwyaf. Byddant hefyd yn atal asiantau tramor nad ydynt yn destun goruchwyliaeth at ddibenion atal gwyngalchu arian (AML) rhag ymgorffori cwmnïau yn y DU.

Bydd y newidiadau hyn yn gwella cywirdeb a dibynadwyedd y gofrestr cwmnïau, gan gryfhau ymddiriedaeth yn y wybodaeth sydd arni a helpu i amddiffyn busnesau, defnyddwyr a’r economi ehangach.

Beth i’w wneud nesaf

Byddwn yn rhoi o leiaf 6 mis o rybudd cyn i’r cyfyngiadau ffeilio ddod i rym. Efallai y bydd gan rai gwasanaethau gyfnod gwirfoddol hefyd, gan roi cyfle i ddefnyddwyr eu profi cyn ei fod yn ofynnol iddynt eu defnyddio yn ôl y gyfraith.  Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth am y rhain wrth i gynlluniau ddatblygu.

Os ydych chi’n gyfarwyddwr cwmni neu’n PRhA, dylech fod eisoes wedi cwblhau gwiriad hunaniaeth ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau. Gallwch ddefnyddio’r un gwiriad hunaniaeth i fodloni’r gofynion ffeilio pan fyddant yn dod i rym. Nid oes angen i chi gwblhau gwiriad hunaniaeth eto.

Os ydych chi’n weithiwr sy’n gyfrifol am ffeilio ar ran cwmni, bydd angen i chi gwblhau gwiriad hunaniaeth os ydych chi am barhau i ffeilio. Gallwch wneud hyn nawr. Darganfyddwch sut i gwblhau eich gwiriad hunaniaeth ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau.

Os ydych chi’n ddarparwr trydydd parti, fel cyfrifydd, sy’n ffeilio ar ran cwmnïau, bydd angen i chi fod wedi’ch cofrestru fel ACSP, neu fod yn gyflogai i ACSP, i barhau i ffeilio. Os nad ydych wedi cofrestru eisoes, gallwch wneud cais i gofrestru fel ACSP.

Byddwn yn rhannu mwy o ddiweddariadau, gwybodaeth a chanllawiau unwaith y byddant ar gael. Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol neu cofrestrwch i gael hysbysiadau dros e-bost sy’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.