Skip to main content

Cael help gyda gwiriad hunaniaeth

Mae rhai cwsmeriaid yn cysylltu â ni i gael help gyda chwblhau gwiriad hunaniaeth a ffeilio eu datganiad cadarnhau.  

I gael mwy o wybodaeth am sut a phryd i gwblhau gwiriad hunaniaeth, ewch i’n casgliad canllawiau gwiriad hunaniaeth ar GOV.UK

Os oes angen help arnoch o hyd, dyma rai ambell air o gyngor i’ch helpu cyn cysylltu â ni.

Gwiriwch pryd mae angen i chi ffeilio datganiad cadarnhau eich cwmni

Cyn i chi ffeilio’ch datganiad cadarnhau nesaf, rhaid i chi:

  1. Gwneud yn siŵr bod pob cyfarwyddwr cwmni wedi cwblhau gwiriad hunaniaeth ac wedi cael eu cod personol Tŷ’r Cwmnïau. 
  2. Cynnwys y cod personol ar gyfer pob cyfarwyddwr yn natganiad cadarnhau eich cwmni.

Bydd eich datganiad cadarnhau yn cael ei wrthod os nad ydych wedi cwblhau’r 2 gam hyn. 

Os bydd rhywun arall yn ffeilio’ch datganiad cadarnhau, rhaid i bob cyfarwyddwr rannu eu codau personol gyda nhw fel y gallant gynnwys y manylion yn ffeilio eich cwmni.

Bydd angen i bobl sydd â rheolaeth arwyddocaol (PRhA) hefyd ddarparu eu cod personol erbyn eu dyddiad dyledus gan ddefnyddio gwasanaeth ar wahân – Darparu manylion gwiriad hunaniaeth ar gyfer person â rheolaeth arwyddocaol. Gwiriwch gofrestr Tŷ’r Cwmnïau i weld y dyddiadau dyledus ar gyfer pob rôl sydd gennych.  

Nid oes angen i chi ddarparu eich cod personol am unrhyw ffeilio arall ar hyn o bryd, gan gynnwys cyfrifon blynyddol.

Darllenwch ein canllawiau ar GOV.UK i gael mwy o wybodaeth am pryd y bydd angen i chi gwblhau gwiriad a darparu eich cod personol.

Cwblhau gwiriad hunaniaeth fel cyfarwyddwr neu berson â rheolaeth arwyddocaol (PRhA) 

Mae dwy ffordd y gallwch gwblhau gwiriad hunaniaeth:

Opsiwn 1: Defnyddio’r gwasanaeth ‘Gwirio eich hunaniaeth ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau’ 

Mae’r gwasanaeth hwn yn defnyddio GOV.UK One Login i gwblhau gwiriad hunaniaeth. Bydd angen cyfrif GOV.UK One Login arnoch i gwblhau gwiriad ar-lein. Dim ond un cyfeiriad e-bost y gellir ei gysylltu â GOV.UK One Login.  

Bydd GOV.UK One Login yn gofyn ychydig o gwestiynau syml i chi mwyn darganfod y ffordd orau i chi gwblhau gwiriad hunaniaeth ar-lein. Gall yr opsiynau sydd ar gael ddibynnu ar eich dyfais, p’un a oes gennych ID gyda llun, a’r math o ID sydd gennych.  

Darganfyddwch fwy am gwblhau gwiriad hunaniaeth gyda GOV.UK One Login. 

Gallwch hefyd ddarllen canllawiau ar sut i gwblhau gwiriad hunaniaeth yn Swyddfa’r Post.

Opsiwn 2: Defnyddio Darparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig

Gallwch ofyn i Ddarparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (ACSP) i gwblhau gwiriad hunaniaeth. Mae ACSP yn unigolion neu sefydliadau trydydd parti sy’n ymgymryd â gweithgaredd dan oruchwyliaeth Atal gwyngalchu arian (AML), fel:  

  • asiantau ffurfio cwmnïau
  • cyfreithwyr
  • cyfrifwyr
  • ysgrifenyddion siartredig a gweithwyr proffesiynol llywodraethu

Os hoffech ddefnyddio darparwr trydydd parti i gwblhau eich gwiriad hunaniaeth, gofynnwch iddynt a ydynt wedi cofrestru fel DGCA gyda Thŷ’r Cwmnïau yn gyntaf.

Hyd yn oed os ydych chi’n gwirio drwy ACSP, mae sefydlu cyfrif GOV.UK One Login yn ei gwneud hi’n haws cael mynediad at eich cod personol yn ddiweddarach, ond nid yw’n ofyniad. Gwnewch yn siŵr bod y cyfeiriad e-bost rydych chi’n ei ddefnyddio yr un peth â’r cyfeiriad a ddarperir gan yr ACSP wrth gwblhau eich gwiriad hunaniaeth. 

Gallwch hefyd ddod o hyd i restr o ACSPau ar GOV.UK. Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr, ond mae’n rhestr gyhoeddus o ACSPau sydd wedi dewis ymddangos ar GOV.UK.

Sut i ddod o hyd i’ch cod personol Tŷ’r Cwmnïau

Rydym wedi cyhoeddi canllawiau manwl ar GOV.UK ynglŷn â ble i ddod o hyd i’ch codau personol ar gyfer cwblhau gwiriad hunaniaeth.

Gwnewch yn siŵr bod eich manylion personol sydd gan Dŷ’r Cwmnïau yn cyfateb i’ch dogfennau adnabod

Cyn darparu eich cod personol, gwnewch yn siŵr bod y manylion personol sydd gan Dŷ’r Cwmnïau (fel eich dyddiad geni) yn cyfateb i’r manylion ar y dogfennau adnabod a ddefnyddiwyd gennych i gwblhau eich gwiriad hunaniaeth.

Os nad ydynt yn cyfateb, bydd angen i chi ddiweddaru eich manylion ac aros i’r newidiadau gael eu prosesu cyn parhau i ddarparu eich cod.

Darllenwch ganllawiau ar sut i gywiro dyddiad geni cyfarwyddwr neu PRhA os cafodd ei ffeilio’n anghywir gyda Thŷ’r Cwmnïau.

Mynediad i’ch cyfrif WebFiling neu Dŷ’r Cwmnïau

Os oes gennych WebFiling a chyfrif Tŷ’r Cwmnïau ar gyfer y gwasanaeth ‘Dod o hyd i a diweddaru gwybodaeth cwmni’, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r un cyfeiriad e-bost ar gyfer y ddau gyfrif. Os nad yw’r ddau gyfeiriad e-bost yr un peth, bydd angen i chi newid un ohonynt fel eu bod yn cyfateb.  

Pan fyddwch yn mewngofnodi i’ch cyfrif WebFiling, byddwch yn cael eich ailgyfeirio i gysylltu’ch cyfrif â GOV.UK One Login. 

Os: 

  • oes gennych gyfrif GOV.UK One Login, byddwch yn gallu mewngofnodi a chysylltu’ch cyfrif 
  • nad oes gennych gyfrif GOV.UK One Login, gofynnir i chi greu un 
  • oes gennych gyfrif Tŷ’r Cwmnïau ar gyfer y gwasanaeth ‘Dod o hyd i a diweddaru gwybodaeth cwmnïau’ nad ydych wedi cysylltu â GOV.UK One Login, byddwch yn gallu cysylltu’r ddau gyfrif ar yr un pryd 

Os ydych yn rhannu cyfrif WebFiling gydag eraill, dim ond un person all gysylltu pob cyfrif WebFiling â’u GOV.UK One Login. Bydd angen i unrhyw un sy’n rhannu mynediad i’r cyfrifon hyn greu eu GOV.UK One Login eu hunain, gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost gwahanol. Ni fyddant bellach yn gallu cael mynediad at wybodaeth am y cwmni yn y cyfrifon a rennir yn flaenorol.

Gofynnwch am gymorth os oes ei angen

Os nad ydych yn hyderus yn defnyddio GOV.UK One Login neu os nad oes gennych fynediad i ddyfais addas, gallwch ofyn i rywun eich helpu drwy:

  • ganiatáu i chi ddefnyddio eu ffôn neu gyfrifiadur
  • eich helpu i lawrlwytho a defnyddio’r ap
  • cynorthwyo gyda sganio eich ID a chymryd lluniau

Gallwch ddarganfod mwy am Helpu rhywun i ddefnyddio GOV.UK One Login.

Gallwch hefyd ddarllen cyngor gan AbilityNet ar sut i wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio. Er enghraifft, dysgu sut i newid lliw’r cefndir neu faint y testun.

I gael mwy o wybodaeth a chanllawiau manwl ar gwblhau gwiriad hunaniaeth, ewch i Gwirio eich hunaniaeth ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau.