Newidiadau i gyfraith cwmniau'r DU

Pwy sy'n cael eu heffeithio

O dan y Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol, mae cyfrifoldebau newydd ar gyfer:  

  • holl gyfarwyddwyr cwmni newydd a phresennol 
  • Pobl â rheolaeth arwyddocaol o gwmni (PRhA) 
  • unrhyw un sy’n ffeilio ar ran cwmni 

Mathau o gwmnïau ac endidau corfforaethol eraill 

Yn gyffredinol, mae’r ddeddfwriaeth newydd yn berthnasol i bob endid sydd wedi’i gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau, gan gynnwys:  

  • Cwmnïau cyfyngedig preifat 
  • Cwmnïau cyfyngedig cyhoeddus (CCC) 
  • Partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig (PAC) 
  • Partneriaethau cyfyngedig (PC) 
  • Cwmnïau buddiannau cymunedol (CBC) 
  • Cwmnïau tramor 

Mae’r ddeddfwriaeth yn berthnasol i gwmnïau ac endidau eraill sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Darparwyr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig   

Bydd y ddeddfwriaeth hefyd yn berthnasol i unrhyw un sy’n ffeilio ar ran cleientiaid, fel cyfrifwyr ac asiantau ffurfio cwmnïau.

Bydd angen i chi gofrestru fel Darparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (ACSP) gyda Thŷ’r Cwmnïau.

Darllenwch wybodaeth ar sut i gofrestru fel Darparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig.

Cwmnïau newydd 

Os ydych yn bwriadu dechrau cwmni newydd neu fath endid arall, bydd angen i chi ystyried y newidiadau a’r cyfrifoldebau newydd a gyflwynir gan y ddeddf. Mae’n bwysig deall sut y bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnoch chi.