Bydd y mesurau a nodir yn y Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol yn gwella tryloywder trwy sicrhau bod mwy o wybodaeth ariannol ar gael i’r cyhoedd.
Ffeilio cyfrifon trwy feddalwedd yn unig
Fel rhan o’n taith i foderneiddio a digideiddio ein llwybrau ffeilio, rhaid ffeilio’r holl gyfrifon gan ddefnyddio meddalwedd masnachol o 1 Ebrill 2027.
Rydym yn cysylltu â chyfeiriad e-bost cofrestredig yr holl gwmnïau ar ein cofrestr, gan ganiatáu amser i baratoi ar gyfer y newid hwn. Byddwch yn derbyn hysbysiad e-bost cyn 1 Gorffennaf 2025.
Rhaid ffeilio pob cyfrifon a wneir ar ac ar ôl 1 Ebrill 2027 gan ddefnyddio meddalwedd masnachol. Mi fydd eich llwybrau gwe a phapur ar gau ar gyfer ffeilio cyfrifon – ond byddant yn parhau i fod ar agor ar gyfer ffeilio statudol eraill.
Bydd y newid hwn yn caniatáu ffeilio mwy effeithlon a diogel i gwmnïau, a bydd yn gam hanfodol tuag at wella ansawdd y data ar y gofrestr. Bydd ffeilio cyfrifon trwy feddalwedd yn unig yn creu ffordd sengl, gost-effeithiol, gynaliadwy ac olrhain i ffeilio.
Mae’r ddeddfwriaeth yn gosod y sylfaen i Dŷ’r Cwmnïau ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau ffeilio cyfrifon mewn fformat digidol. Er mwyn cydymffurfio â’r newidiadau hyn, bydd angen i bob cwmni ddod o hyd i gynnyrch meddalwedd addas cyn nad yw’r opsiynau ar y we a ffeilio papur ar gael bellach.
Mae hyn yn berthnasol i gyfarwyddwyr sy’n ffeilio cyfrifon eu hunain, a chwmnïau sy’n defnyddio asiantiaid trydydd parti neu gyfrifwyr i ffeilio eu cyfrifon blynyddol.
Gall y rhan fwyaf o gwmnïau wneud y newid nawr gan fod meddalwedd eisoes ar gael. Mae yna lawer o ddarparwyr meddalwedd sy’n cynnig amrywiaeth o becynnau cyfrifyddu i baratoi a ffeilio cyfrifon – gallwch ddod o hyd i feddalwedd ar gyfer ffeilio dogfennau cwmni.
Gellir ffeilio’r rhan fwyaf o fathau o gyfrifon gan ddefnyddio meddalwedd, yn dibynnu ar ymarferoldeb y pecyn meddalwedd rydych chi’n ei ddefnyddio.
Mae ffeilio trwy feddalwedd yn unig yn cefnogi ein nod o wasanaeth ffeilio cwbl ddigidol ac yn helpu i gyflawni ein blaenoriaeth sefydliadol i atal troseddau economaidd a dod â’r DU yn unol ag arfer gorau rhyngwladol.
Newidiadau i opsiynau ffeilio cwmni bach
O’r 1 Ebrill 2027, rydym yn symleiddio’r opsiynau ffeilio cyfrifon ar gyfer cwmnïau bach a micro-endid.
Bydd yn ofynnol i ficro-endidau ffeilio copi o’u mantolen a’u cyfrif elw a cholled.
Bydd yn ofynnol i gwmnïau bach ffeilio copi o’r fantolen, adroddiad y cyfarwyddwyr, adroddiad yr archwilydd (oni bai ei fod wedi’i eithrio) a’r cyfrif elw a cholled.
Ni fydd cwmnïau bellach yn gallu paratoi a ffeilio cyfrifon cryno.
Hawlio eithriad archwilio
Bydd angen i unrhyw gwmni sy’n hawlio eithriad archwilio roi datganiad ychwanegol gan eu cyfarwyddwyr ar y fantolen.
Bydd angen i gyfarwyddwyr nodi pa eithriad sy’n cael ei hawlio, a chadarnhau bod y cwmni’n gymwys am yr eithriad.
Cyfnodau cyfeirio cyfrifyddu
Rydym yn cyfyngu faint o weithiau y gall cwmni fyrhau ei gyfnod cyfeirnod cyfrifeg.
Bydd yn rhaid i gwmni ddarparu rheswm busnes os ydynt am fyrhau’r cyfnod fwy nag unwaith o fewn 5 mlynedd.