Rhaid i bob cwmni gynnal a chadw cofrestrau statudol o wybodaeth.
O’r 18 Tachwedd 2025, ni fydd gofyniad bellach i gwmnïau gadw cofrestrau:
- cyfarwyddwyr
- cyfeiriadau preswyl y cyfarwyddwyr
- ysgrifenyddion
- pobl â rheolaeth arwyddocaol (PRhA)
Bydd yn rhaid i chi gofrestru’r wybodaeth hon gyda Thŷ’r Cwmnïau a’i chadw’n gyfredol.
Ni fydd angen i chi ddarparu galwedigaeth fusnes mwyach ar gyfer cyfarwyddwyr cwmnïau (neu gyfwerth) pan fyddwch chi’n cofrestru eu penodiad gyda Thŷ’r Cwmnïau.
Dileu’r gofrestr ganolog
O’r 18 Tachwedd 2025, ni fydd cwmnïau bellach yn gallu dewis cadw gwybodaeth am swyddogion y cwmni ar y gofrestr ganolog.
Gofyniad ar gyfer cofrestr o gyfranddalwyr (aelodau)
Yn ôl y gyfraith, bydd yn rhaid i gwmnïau dal cofrestr o gyfranddalwyr (aelodau) naill ai yng nghyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni, neu leoliad archwilio amgen unigol (SAIL).
Os oedd eich cwmni yn dal ei gofrestr o aelodau yn Nhŷ’r Cwmnïau yn flaenorol, bydd angen i chi:
- Creu a chynnal cofrestr o aelodau.
- Cadw’r gofrestr o aelodau yng nghyfeiriad eich swyddfa gofrestredig neu gyfeiriad SAIL.
- Cynnwys datganiad yn y gofrestr bod y wybodaeth am aelodau’r cwmni wedi’i chadw chadw ar y ‘gofrestr ganolog’ cyn y newid hwn.
- Gwneud y gofrestr hon yn weledol i’r cyhoedd.