Mae’r Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol wedi cyflwyno mesurau i atal cam-drin gwybodaeth bersonol a gedwir ar gofrestr Tŷ’r Cwmnïau.
Un o’r nodau yw cydbwyso’r angen am dryloywder corfforaethol â’r ddealltwriaeth y dylid cyhoeddi gwybodaeth bersonol dim ond pan fo’n angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny. Bydd y mesurau hyn yn dod i rym dros y ddwy flynedd nesaf mewn dull graddol o weithredu.
Atal gwybodaeth bersonol
O fis Ionawr 2025, bydd unigolion yn gallu gwneud cais i atal y wybodaeth ganlynol o ddogfennau hanesyddol:
- y cyfeiriad swyddfa gofrestredig lle mae eu cyfeiriad cartref
O wanwyn/haf 2025, bydd unigolion yn gallu gwneud cais i atal y wybodaeth ganlynol o ddogfennau hanesyddol:
- cyfeiriadau preswyl yn y rhan fwyaf o achosion pan ddangosir mewn mannau eraill ar y gofrestr
- diwrnod geni ar gyfer dogfennau a gofrestrwyd cyn 10 Hydref 2015 (dim ond y mis a’r flwyddyn geni sydd wedi’u harddangos yn gyhoeddus ers 10 Hydref 2015)
- llofnodion
- galwedigaeth busnes
Diogelu gwybodaeth bersonol oherwydd risg o niwed
Bydd unigolion sydd mewn perygl personol o niwed corfforol neu drais o ganlyniad i’w gwybodaeth bersonol ar gofrestr gyhoeddus Tŷ’r Cwmnïau (er enghraifft, goroeswyr cam-drin domestig) yn gallu gwneud cais i sicrhau bod eu gwybodaeth yn cael ei diogelu rhag golwg y cyhoedd.
Mae’r wybodaeth y gellir eu diogelu rhag golwg y cyhoedd yn cynnwys:
- enw (neu enwau blaenorol)
- cyfeiriadau sensitif lle mae datgeliad cyhoeddus yn peryglu ei drigolion (er enghraifft, lloches cam-drin ddomestig i fenywod)
- yn yr achosion mwyaf difrifol, yr holl fanylion eraill, er enghraifft, cyfeiriad gwasanaeth a dyddiad geni rhannol
Bydd angen is-ddeddfwriaeth ar y mesurau hyn i gyd cyn iddynt gael eu gweithredu.