Darparwyr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig

Mae Darparwyr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (ACSP) yn unigolion neu sefydliadau sy’n ymgymryd â gweithgarwch atal gwyngalchu arian (AML), fel:  

  • asiantau ffurfio cwmnïau  
  • cyfreithwyr  
  • cyfrifwyr  
  • ysgrifenyddion siartredig a gweithwyr llywodraethu proffesiynol

O 25 Chwefror 2025, bydd angen i ddarparwyr trydydd parti a fydd yn cynnal gwiriadau hunaniaeth ar ran cleientiaid Tŷ’r Cwmnïau gofrestru eu busnes fel Darparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (DGCA). 

Yn y dyfodol, bydd angen i fusnesau gofrestru hefyd i allu ffeilio ar ran cleientiaid.

Dod yn Ddarparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig

I ddod yn Ddarparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig  rhaid i asiantau gael eu goruchwylio yn y DU gan un o’r Cyrff atal gwyngalchu arian (AML) perthnasol, fel: 

  • CThEF 
  • Awdurdod Ymddygiad Ariannol 
  • Cymdeithas Ymarferwyr Ansolfedd 

Mae cyfanswm o 25 o gyrff goruchwylio yn y Deyrnas Unedig. Gallwch ddod o hyd i restr lawn o gyrff goruchwylio ar GOV.UK.  

Cofrestru fel Darparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig gyda Thŷ’r Cwmnïau

Os oes gennych rôl uwch o fewn y busnes, fel cyfarwyddwr neu unig fasnachwr, bydd angen i chi gwblhau proses gofrestru i gofrestru eich busnes fel Darparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig gyda Thŷ’r Cwmnïau.

O 25 Chwefror 2025, gallwch wneud cais i ddod yn DGCA gan ddefnyddio ein gwasanaeth newydd ‘Gwneud cais i gofrestru fel asiant awdurdodedig Tŷ’r Cwmnïau’. 

Gofynnir i chi gwblhau gwiriad hunaniaeth fel rhan o’r cais a darparu gwybodaeth am y busnes. Bydd angen i chi hefyd dalu ffi gofrestru o £55.

Ar ôl cofrestru, byddwch yn derbyn cyfrif digidol newydd a rhif adnabod unigryw. Bydd hyn yn eich galluogi i ffeilio gwybodaeth a chwblhau gwiriad hunaniaeth ar gyfer eich cleientiaid.  

Gall y person sy’n cofrestru’r busnes fel DGCA ychwanegu pobl eraill sy’n gweithio i’r busnes at y cyfrif asiant awdurdodedig unwaith y bydd wedi’i gofrestru a’i gymeradwyo. 

Darllenwch gyfarwyddyd ar:

Darllenwch ein blog i ddarganfod mwy am Ddarparwyr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig.